Glasfryn Farm Shop, Pwllheli, North Wales Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli, Gogledd Cymru

Farm Shop Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli

 


• Hafan

Prynnu/Archebu
Cigoedd
Llysiau a Ffrwyth
O'r Llaethdy
Cynnyrch Lleol
Prydau Parod
Bwyd O'r Cyfandir
Byr-brydau
Diodydd
Pwdinau
Melysion
• Cynnyrch Heb



English

pwdinau

Pwdinau blasus!

Rydym yn cadw amrywiaeth eang o bwdinau a chynnyrch melys at ddant ac anghenion pawb…

Rydym yn cadw pwdinau traddodiadol parod megis y pwdin taffi gludiog enwog o Siop Bentref Cartmel yng Nghumbria, sy’n cael ei goginio gartref gyda dim ond cynhwysion naturiol. Mae bolgwn megis Anthony Worral Thompson a Nigella Lawson yn gwirioni arno.

Am rywbeth nes at gartref, pan na flaswch chi derîn siocled eithriadol o gyfoethog Patchwork o Ruthun? Yn enwocach am eu patés cartref (mae gennym ddewis eang ohonynt yn Siop Fferm Glasfryn), mae Patchwork wedi ymestyn eu harbenigrwydd i greu’r terînau siocled mwyaf moethus. Bydd tafell denau o unrhyw un o’r terînau unigryw ar blât gyda llond llwy o fafon, talp hael o crême fraiche ac ychydig o siwgr eisin yn creu argraff ar unrhyw un a ddaw i swper.

Os yw cyfyngderau diet yn eich diflasu, mae gennym gacennau cyfoethog traddodiadol Mrs Crimble, sydd heb wenith, gluten, wy ac sydd hefyd yn isel mewn braster ond heb gyfaddawdu ar flas - yn ffefryn gyda’n cwsmeriaid i gyd!

Mae ein dewis yn ymestyn i sawsiau siocled tew a chyfoethog, danteithion ar ôl cinio, pastai ceirios cartref dwfn, hufen iâ organig a sorbet ffrwythau’r haf - mae gormod o ddewis!


_________________________________________________________________________
masnach | cysylltwch â ni | hygyrchedd | sut iffeindio ni | english | gwobrwyau

Siop Fferm Glasfryn, Glasfryn Parc, Y Ffôr, Pwllheli . Gwynedd, LL53 6RD
Ffôn/Tel: 01766 810 044 | Ebost/Email: siopfferm@glasfryn.co.uk