Glasfryn Farm Shop, Pwllheli, North Wales Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli, Gogledd Cymru

Farm Shop Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli

 


• Hafan

Prynnu/Archebu
Cigoedd
Llysiau a Ffrwyth
O'r Llaethdy
Cynnyrch Lleol
Prydau Parod
Bwyd O'r Cyfandir
Byr-brydau
Diodydd
Pwdinau
Melysion
• Cynnyrch Heb



English

byr-brydau

byr-brydau

Cael bwffe, parti, picnic, noson i mewn gyda ffilm neu soirée caws a gwin cartrefol?

Yma yn Siop fferm Glasfryn rydym yn deall sut gallai’r dewis iawn o fyrbryd neu damaid bach ychwanegu’r rhywbeth prin hwnnw at achlysur, pan ydych mewn criw neu ddim ond dau ohonch.

Mae gennym ddewis o fyrbrydau ar gyfer unrhyw amser o’r dydd a’r flwyddyn ac ar gyfer unrhyw achlysur - gallwn sicrhau eich bod yn rhoi’r croeso cynhesaf posibl i’ch gwesteion.

Cewch hen ffefrynnau ar ein silffoedd megis cymysgedd Bombay bras a blasus, pop corn organig perffaith ar gyfer ffilm a chreision - ond nid unrhyw hen greision chwaith!

Mae sglodion tatws Tyrrell yn cael eu ffrio gyda llaw ar y diwrnod y codir y tatws ac maen nhw’n gyfan gwbl naturiol. Byddwch yn gallu blasu eu hansawdd a’u hamrywiaeth profoclyd - o Fefus a Gwin Gwyn i Fananas a Sinamon ac Afal, Chili Jalapeno sbeislyd a Lemon!

Mae basgedi gwiail yn llawn o Sglodion Kettle wedi’u ffrio â llaw mewn bagiau ffoil mawr yn ffefryn arall yn ein siop - maint delfrydol ar gyfer rhannu. Fe’i gelwir yn ‘Natural Obsession’ ac mae cynhwysion Sglodion Kettle yn rhai naturiol heb ddim artiffisial i gynyddu blas. Mae eu blasau egsotig yn ymestyn o Mango Chili, Iogwrt a Nionod Gwyrdd a Salsa gyda Mesquite hyd at gynnyrch tymhorol arbennig megis Mozzarella Byfflo, Tomato a Basil.

Mae’n dewis o sglodion wedi’u coginio a byrbrydau mewn bagiau hefyd yn cynnwys rhai arbennig iawn megis Creision Pipers arobryn gyda Halen Môn, bara Pitta blawd cyflawn, Kettle Crispy Bakes a’r danteithfwyd gwerinol Sglodion Llysieuol wedi’u Ffrio gyda Llaw.

I gyd-fynd â’r creision a sglodion blasus, mae gennym ddewis o salsas, relish a dipiau at bob chwaeth i dynnu dwr o’r dannedd - os ydych yn frwdfrydig dros Dip Caws Glas Tew a Hufennog, yn ymroddedig i Salsa Poeth Pupur Coch a Garlleg Rhost neu bod eich dant melys yn eich denu at Dip Nionod cyfoethog a sbeislyd wedi’u Carmeleiddio.

Fel gyda’r adrannau bwyd diddorol eraill yn Siop Fferm Glasfryn, mae ein dewis o fyrbrydau, seigiau a chyrsiau cyntaf yn tyfu ac yn esblygu’n barhaus, nid yn unig i gyd-fynd â gofyn ein cwsmeriaid ond hefyd fel y byddwn yn darganfod bwydydd newydd diddorol wrth deithio, archwilio a chysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr cyffrous, newydd.

Cofiwch, os deuwch ar draws bwydydd a danteithion newydd ar eich teithiau, galwch draw i sôn wrthym ni amdanyn nhw!

Yn y cyfamser, gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ein dewis gourmet o fyrbrydau.

_________________________________________________________________________
masnach | cysylltwch â ni | hygyrchedd | sut iffeindio ni | english | gwobrwyau

Siop Fferm Glasfryn, Glasfryn Parc, Y Ffôr, Pwllheli . Gwynedd, LL53 6RD
Ffôn/Tel: 01766 810 044 | Ebost/Email: siopfferm@glasfryn.co.uk