Glasfryn Farm Shop, Pwllheli, North Wales Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli, Gogledd Cymru

Farm Shop Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli

 


• Hafan

Prynnu/Archebu
Cigoedd
Llysiau a Ffrwyth
O'r Llaethdy
Cynnyrch Lleol
Prydau Parod
Bwyd O'r Cyfandir
Byr-brydau
Diodydd
Pwdinau
Melysion
• Cynnyrch Heb



English

llysiau a ffrwythau

Llysiau o Siop Fferm Glasfryn

Dewis o Llysiau Wedi’u Rhewi
Dyma syniad diddorol: llysiau wedi’u rhewi’n gyflym o’r ansawdd gorau posibl - gymaint neu cyn lleied ag a fynnwch, pryd bynnag y mynnwch, dim ots am y tymhorau!

Mae gennym ddewis trawiadol o lysiau aeddfed wedi’u ffermio’n dyner a’u rhewi’n gyflym er mwyn cadw’r maeth a blas i gyd.

Gallwch brynu unrhyw beth o 5 gram i 5 cilo ar y tro!

Ar hyn o bryd mae gennym ddewis o tatws rhost cartref traddodiadol, cymysgedd o lysiau ffermdy, tatws hash brown a llysiau gyda’r mwyaf blasus, ein madarch garlleg mewn briwsion hynod boblogaidd, ac yn olaf ond nid y lleiaf o bell ffordd, fy ffefryn personol, cymysgedd flasus o lysiau wedi’u grilio sy’n cynnwys tafelli o blanhigyn wy, courgettes a phupur coch a melyn!

Mae’n werth dod dim ond i edrych.

Ffrwythau

Ffrwythau wedi’u Rhewi
Dyma syniad diddorol: ffrwythau wedi’u ffermio a’u rhewi’n gyflym o’r ansawdd uchaf posibl ar gael i chi brynu faint a fynnoch – o lond cist car i lond bag papur, pryd bynnag y hoffech, dim ots am y tymhorau!

Dyma beth allwn ei gynnig i chi yn Siop Fferm Glasfryn. Mae gennym ddewis trawiadol o ffrwythau braf wedi’u ffermio’n dyner a’u rhewi’n gyflym er mwyn cadw’r maeth a blas i gyd. Gallwch brynu unrhyw beth o 5 gram i 5 cilo ar y tro!

Mae ein dewis trawiadol o ffrwythau ffres yn aml yn syfrdanu ein cwsmeriaid wrth iddyn nhw weld ein rhewgelloedd am y tro cyntaf. Hyd yn oed ar yr olwg gyntaf, mae’n amlwg fod y ffrwythau o’r ansawdd uchaf un, yn dangos lliw, maint ac ansawdd da hyd yn oed ar ôl eu rhewi.

_________________________________________________________________________
masnach | cysylltwch â ni | hygyrchedd | sut iffeindio ni | english | gwobrwyau

Siop Fferm Glasfryn, Glasfryn Parc, Y Ffôr, Pwllheli . Gwynedd, LL53 6RD
Ffôn/Tel: 01766 810 044 | Ebost/Email: siopfferm@glasfryn.co.uk