Sefydlwyd
Siop Fferm Glasfryn yn 2001 i werthu cig eidion, cig oen a gêm
yr ystâd a phorc a chig moch Llyn yn uniongyrchol i’n
cwsmeriaid lleol.
Rydym
yn ymfalchïo hefyd ein bod yn gwerthu cynnyrch o ansawdd lleol
ac o rannau eraill o Gymru gan gynnwys prydau cartref traddodiadol
sy’n defnyddio’n cynhwysion gorau.
Rydym
ar y terfyn rhwng Llyn ac Eifionydd yng Ngogledd Cymru a byddwn yn
prynu cymaint â phosibl oddi wrth ffermwyr, cynhyrchwyr a chyflenwyr
lleol.
Yn
ogystal â chynnig dewis eang o’r cigoedd
gorau yn lleol ac o’r cyfandir, llysiau,
cynnyrch cyfandirol, cynnyrch
llaeth blasus a chawsiau arbenigol, rydym hefyd yn gwerthu prydau
parod, pwdinau anodd eu maddau, jamiau a chyffeithiau, sgwpiau
hunan wasanaeth o ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi’n gyflym,
siocledi a bisgedi moethus wedi’u
gwneud â llaw yng Nghymru, sawsiau a salsas sawrus a byrbrydau
danteithiol. Rydym hefyd yn cadw cynnyrch organig a chynnyrch Masnach
Deg yn ogystal â dewis o gynnyrch ‘Heb’ - heb gluten,
heb wenith a heb siwgr!
Y
FFERM
Mae Fferm Glasfryn Fawr yn hen ystâd. Mae yng nghysgod
cadwyn o dri mynydd yr Eifl, gyda golygfa ysblennydd dros Fae Ceredigion
ac mae’n cynnal bridiau da byw brodorol traddodiadol.
MILLTIROEDD
BWYD
Ydych chi erioed wedi ystyried pa mor bell mae’ch bwyd
wedi teithio?
Yn
ystod y blynyddoedd diwethaf cododd anfodlonrwydd cynyddol gydag ansawdd
a diogelwch bwyd, prisiau’n codi, diffyg dewis i’r cwsmer
ac anghydraddoldeb brawychus mewn dosbarthu bwyd. Mae cwsmeriaid wedi
dechrau holi ynghylch y ffordd mae’u bwyd yn cael ei gynhyrchu
a pham mae’n cael ei gludo ymhell mor aml ac yn ddiangen.
Mae
teithio gormod yn gallu achosi stres i anifeiliaid, sydd yn ei dro
yn effeithio ar ansawdd y cig. Mae’r ‘milltiroedd bwyd’
hefyd yn ychwanegu at y problemau amgylcheddol cynyddol sy’n
cael eu hachosi gan lygredd trafniadaeth.
Mae
Fferm Glasfryn yn gallu gwarantu na fydd ei gig wedi teithio mwy na
80 o filltiroedd.