CIG EIDION
GWARTHEG DUON CYMREIG
Mae ein
Cig Eidion Gwartheg Duon Pedigri Cymreig yn dod o wartheg wedi’u
magu ar borfa ffrwythlon naturiol ein fferm ein hunan.Mae’n
gig eidion brau gyda rhwydwaith o fraster gwyn trwyddo ac ychydig
o flas perlysiau. Bydd y cig yn cael ei hongian (aeddfedu) ar yr asgwrn
am 28 diwrnod yn y ffordd draddodiadol, er mwyn gwella’r blas
a’r ansawdd.
Mae Cig Eidion
Gwartheg Duon Cymreig ymysg y gorau yn y byd ac mae’n cael ei
ddefnyddio gan y cogyddion a’r bwytai gorau ledled y DU.
A wyddech
chi?
Mewn
sesiwn flasu ‘dall’ arbennig o wahanol stêc ffiled
gan 12 o gogyddion gorau Llundain, cig eidion Gwartheg Duon Cymreig
ddaeth i frig y gystadleuaeth gan guro rhai o fridiau cig eidion enwocaf
y byd gan gynnwys Chalosse, Salers, Limousin, Charolais, Simmenthal,
ac Aberdeen Angus. Dyfarnodd y beirniaid o arbenigwyr mai cig eidion
Gwartheg Duon Cymreig oedd y gorau un.
CIG OEN
Mae’n
hwyn pedigri Defaid Llyn yn ffynnu ar y borfa naturiol sydd ar gael
gydol y flwyddyn yma yn un o’r mannau harddaf
yn y Byd. Mae
Defaid llyn yn frid gwydn sy’n cael ei fagu ar weiriau mân
y mynydd ac ar ddolydd melys yr iseldir, sy’n rhoi blas unigryw
i’r cig.
Mae amrywiaethau
naturiol yn yr hinsawdd a’r borfa yn cyfrannu tuag at flas arbennig
ac ansawdd uchel cyson ein hwyn, sydd wedi’u geni a’u
magu yng Nghymru o dan hwsmonaeth ein bugeiliaid medrus.
Mae’n Cig
Oen yn gynnyrch naturiol, amlbwrpas, brau, isel mewn braster a chyda
blas unigryw Cymru arno.
Defaid Llyn
Mae
Defaid Llyn yn frîd pur, cynhenid, o Lyn a than yn ddiweddar
roedd yn gymharol anghyfarwydd yng ngweddill gwledydd Prydain.
Daeth ffermwyr
i ddeall yn fuan fod dafad Llyn yn ddafad ddelfrydol, yn dawel o ran
natur, yn gynhyrchiol a chyda greddfau mamol iawn. Mae defaid Llyn
yn ffynnu lle bynnag y mae, ar y mynydd neu ar lawr gwlad.
CIG MOCH
PEN LLYN
Mae Cig
Moch Pen Llyn heb ei ail o ran ansawdd a gwerth. Bydd yn cael ei halltu
yn y dull ‘sych’ hen ffasiwn wrth i ni rwbio croen y cig
gyda chymysgedd halltu sych sy’n tynnu’r gwlybaniaeth
o’r cig. Mae’r dull yma’n sicrhau na ddaw unrhyw
wlybaniaeth o’r cig moch wrth ei goginio ac felly na fydd yn
colli unrhyw bwysau na blas.
Byddwn yn mygu
ein cig moch yn y dull traddodiadol. Yn hytrach na’i baentio
neu ei chwistrellu gyda hylif mwg, mae’n cael ei fygu yn ein
ty mwg ein hunan gan ddefnyddio pren derw Cymreig lleol.
A wyddech
chi?
Drwy halltu
ein cig moch ein hunan byddwn yn colli 10% o’i bwysau sy’n
golygu mai dim ond pwys a gawn o 18 owns o gig moch, ond golyga hynny
nad yw’r cig yn colli dim o’i bwysau wrth ei goginio.
Bydd halltwyr masnachol yn chwistrellu hylif halltu i mewn i’w
cig moch, sy’n ychwanegu rhwng 10% a 45% at bwysau’r cig.
Felly, dim ond 11owns o gig sydd yn y pwys y byddwch yn ei brynu ac
ar ben hynny bydd yn colli llawer o’i bwysau wrth ei goginio.
Mae’r hyn sy’n ymddangos yn rhad i’w brynu gryn
dipyn yn ddrutach erbyn iddo gyrraedd y bwrdd.
GÊM
Mae
gêm Ystâd Glasfryn, sy’n cynnwys ffesant, hwyaden,
sguthan a chwningen, yn cael eu magu’n wyllt yn ôl trefn
natur a heb i unrhyw beth artiffisial gael ei ychwanegu i hybu eu
prifiant.
Yn eithriadol
o faethlon, hawdd ei goginio ac yn gyfoethog o ran blas, daw ein gêm
gwyllt wedi’i drin â blas traddodiadol y wlad yn syth
at eich bwrdd.
Rydym yn ymfalchïo
yma yn Siop Fferm Glasfryn ein bod yn gallu darparu gwasanaeth personol
o ansawdd i’n cwsmeriaid. Rydym yn eich annog, felly, i gysylltu
â ni pe hoffech archebu unrhyw doriadau arbennig o gig, neu
os hoffech archebu gêm yn ei dymor. Cofiwch ein ffonio pan fyddwch
eisiau archebu - gwnawn ein gorau glas i gyflenwi’ch anghenion
pryd a phan fo’n bosibl. Ond cofiwch hefyd adael o leiaf wythnos
i ni allu paratoi eich archeb ar eich cyfer.