Glasfryn Farm Shop, Pwllheli, North Wales Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli, Gogledd Cymru

Farm Shop Glasfryn Siop Fferm, Pwllheli

 


• Hafan

Prynnu/Archebu
Cigoedd
Llysiau a Ffrwyth
O'r Llaethdy
Cynnyrch Lleol
Prydau Parod
Bwyd O'r Cyfandir
Byr-brydau
Diodydd
Pwdinau
Melysion
• Cynnyrch Heb


English

o'r llaethdy

Caws Cymraeg, Caws Llyn, Tintern, caws eryri

Ni fyddai unrhyw siop fferm yn gyflawn heb ddewis diddorol ac amrywiol o gynnyrch llaeth blasus a maethlon – a dyw Siop Fferm Glasfryn ddim yn eithriad. Wrth gwrs, byddai’n gywilydd i ni beidio gan nad ydym ond tafliad carreg oddi wrth un o hufenfeydd gorau a mwyaf blaenllaw Cymru: Hufenfa De Arfon. Ac nid hynny’n unig, mae Cymru’n byrlymu o gynhyrchwyr caws sy’n cynnig dewis eang o gawsiau da ac rydym yn anelu at gynnig y gorau i chi.

Rydym yn cadw’r Caws Llyn enwog - caws aeddfed blasus, mae’n ffefryn cadarn gyda’n cwsmeriaid. Dyma sylfaen ein dewis cyffrous a newidiol o gawsiau o bob rhan o Gymru.

Ar ein cownter deli daw cawsiau croen cwyr o’r Fenni, sy’n cosi’r blas.

Mae Tintern, a enwir ar ôl Abaty Tintern, yn gymysgedd o gaws Caer aeddfed Cymreig a chennin syfi a sialóts ffres. Mae’n gaws hufennog, llyfn sy’n dwysau blas y cennin syfi a sialots.

Yn yr un dewis mae gennym gaws Harlech, sy’n gymysgedd o gaws Caer Cymreig gyda rhuddygl wedi’i falu a phersli, mewn croen o gwyr oren. Mae’n gaws llyfn sy’n llwyddo i gyfuno blas cryf y rhuddyglen a’r persli ffres.

I orffen y cynnyrch lliwgar yma mae gennym gaws y Fenni a St Illtyd, dau gaws bendigedig arall – dewch draw i ddysgu rhagor amdanynt!

Cawn ddewis poblogaidd iawn o gawsiau gyda blasau diddorol gan Gwmni Caws Eryri o Lanrwst. Daw’r cawsiau Cymreig hyn ar ffurf cosynnau bach mewn cwyr lliwgar, fersiwn fodern o’r cosyn caws traddodiadol mawr - perffaith ar gyfer eich oergell! Mae’r dewis yn ymestyn o’r caws Little Black Bomber hynod o aeddfed i’r Green Thunder gyda garlleg a pherlysiau’r ardd a’r Amber Mist oren gyda diferyn o chwisgi.

Yn y dyfodol gobeithiwn ymestyn ein dewis o gynnyrch llaeth i gynnwys cawsiau hyd yn oed fwy bendigedig o Gymru a thu hwnt - felly cadwch eich llygad ein cownter Deli i weld y datblygiadau!

 

_________________________________________________________________________
masnach | cysylltwch â ni | hygyrchedd | sut iffeindio ni | english | gwobrwyau

Siop Fferm Glasfryn, Glasfryn Parc, Y Ffôr, Pwllheli . Gwynedd, LL53 6PG
Ffôn/Tel: 01766 810 044 | Ebost/Email: siopfferm@glasfryn.co.uk